Mae bechgyn y bêl gron eisoes wedi dangos y ffordd neithiwr yn eu buddugoliaeth wych dros dîm y Swistir.

Yn awr, mae Cymru i gyd yn disgwyl yn eiddgar i fechgyn y bêl hirgron fynd amdani a sicrhau ail fuddugoliaeth genedlaethol ar y meysydd chwarae’r penwythnos hwn.

Un sy’n ffyddiog y bydd y Cymry yn ennill heddiw yn y frwydr fawr yn erbyn yr Iwerddon yw’r cyn-chwaraewr rhyngwladol Robert Jones, a enillodd 54 cap dros ei wlad. Ar y rhaglen Scrum Five neithiwr, dywedodd y byddai Cymru yn ennill y frwydr yn erbyn yr Iwerddon ac yna yn mynd ymlaen i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cwpan y Byd. Seland Newydd fyddai’r gwrthwynebydd yn y gêm honno, meddai, gyda Chymru yn ennill ac yn dod yn bencampwyr y byd.

Felly, gyda’r hyder yn cynyddu, a Chymru gyfan ar dân, mae pawb yn gobeithio y bydd y dreigiau ifanc yn tanio heddiw, ac yn rhoi cweir i’r hen bennau Gwyddelig.