Ai’r crys coch neu’r crys gwyrdd fynd yn ennill y dydd yng nghartref y cyflwynydd Sarra Elgan yn y Fro bore fory?
Mae Sarra yn credu bod gan dîm rygbi Cymru’r cyfle gorau erioed yn eu hanes i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.
Ond mae’n rhaid dweud nad yw ei gŵr, y cyn chwaraewr rhyngwladol gyda thîm Iwerddon, Simon Easterby, yn rhannu’r un farn yn llwyr!
Roedd Sarra yn siarad cyn y sioe rygbi Jonathan sydd i’w gweld heno ar S4C am 9.30.
Bydd Jonathan a Sarra yn croesawu gwesteion a fydd yn sicr yn cefnogi Cymru ar y sioe heno – yr actor Hollywood, Matthew Rhys a chyflwynydd S4C, Mari Lovgreen.
Ond ni all y fam i ddwy warantu y bydd ei phlant, Soffia, 4 a Ffredi, 2, yn cefnogi Cymru pan fyddant yn wynebu Iwerddon fory yn chwarteri Cwpan Rygbi’r Byd y gellir ei gweld yn fyw ar S4C.
Meddai Sarra, “Mae Soffia yn sicr yn gwybod bod ei thad arfer chwarae i Iwerddon ac yn browd o hynny. Mae’r ddau’n gwisgo crys Iwerddon weithiau ac yn cefnogi nhw pan maen nhw ar y teledu. Alla i ddim gwarantu na fyddan nhw’n gwisgo crys gwyrdd bore fory – mae’n dibynnu pwy fydd wedi codi’r cynhara’, fi neu Simon!”
Mae Sarra, a fydd yn cyflwyno gemau Cwpan LV= ar S4C cyn hir ac yn cyflwyno gemau Uwch Gynghrair Lloegr Aviva ar ESPN, yn credu y gall Cymru gyrraedd y ffeinal.
“Rwy’n credu y gall Cymru faeddu Iwerddon, ond fe fydd hi’n agos iawn. Does dim rheswm pam na allan nhw wedyn fynd yn ein blaenau i faeddu Ffrainc neu Loegr yn y rownd gynderfynol, yn enwedig gan nad ydyn nhw’n chwarae ar eu gorau.
“Mae Simon yn eistedd ar y ffens braidd am y canlyniad rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae’n credu y bydd hi mor agos fel nad oes modd rhagweld y canlyniad. Yn naturiol, mae moyn i Iwerddon ennill ond mae’n dweud y bydd yn cefnogi Cymru am weddill y twrnamaint os yw Cymru’n ennill. Ac os yw Iwerddon yn ennill, y crys gwyrdd fyddai i’n cefnogi. Ond fe fydd hi’n fore llawn nerfusrwydd yn sicr!”