Bydd y Bala yn teithio i Bort Talbort i wynebu Lido Afan yng ngêm fyw Sgorio yfory gan obeithio dod â rhediad gwael diweddar i ben. Synnodd gwŷr Maes Tegid ambell un gyda’u dechrau gwych i’r tymor, ond mae’r dair gêm ddiwethaf yn erbyn rhai o dimau cryfa’r gynghrair wedi profi’n anodd i’r Bala. Maen nhw wedi colli tair gêm o’r bron yn erbyn Llanelli, Castell Nedd a Bangor gan ildio deg o goliau yn y broses.

Dod â’r rhediad hwnnw i ben fydd prif nod tîm Colin Caton yfory felly a gall deithio yno yn hyderus gan wybod bod record ei dîm yn erbyn timau o’r hanner gwaelod y tymor hwn wedi bod yn rhagorol. “ Ydi, ond does yna ddim gêmau hawdd yn Uwch Gynghrair Cymru a bydd hwn yn brawf mawr i’r hogia’ yn enwedig wedi ein rhediad gwael diweddar. Mi fydd hi’n her ond mi fyddwn ni’n barod amdani.”

Peth arall fydd yn codi ei galon fydd canlyniad y Bala mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth; teithiodd gŵyr Maes Tegid i Ffordd Llanelian i wynebu Bae Colwyn gan guro’r tîm o Adran Ogledd Cyngres y Blue Square o gôl i ddim.

Canlyniad gwych ond roedd y perfformiad wedi rhoi mwy o foddhad i reolwr Y Bala.

 “Roedd hi’n gêm bwysig, nid gymaint o ran y canlyniad, ond gan ei bod wedi rhoi cyfle i ambell un o chwaraewyr ymylol y garfan chwarae 90 munud, ac efallai y gwnaiff newid sut y byddwn yn edrych ar y gêm ddydd Sadwrn.”

Ond doedd yr ymarfer ym Mae Colwyn ddim yn fêl i gyd.

 “Yr unig agwedd siomedig ydi’r anafiadau a gawsom yn y gêm, mae John Irvine wedi’i anafu a fydd o ddim yn chwarae ddydd Sadwrn ac mae Lee Hunt yn 50/50.”

Gan gofio trafferthion Lido Afan o flaen gôl bydd y Bala yn awyddus i gadw llechen lân brynhawn Sadwrn.

 “Mae hi wastad yn braf peidio ildio mewn gêm, fe lwyddon ni i wneud hynny nos Fawrth yn erbyn Bae Colwyn a byddwn yn gobeithio gwneud yr un peth ddydd Sadwrn.” Medd Caton.

Ond bydd y blaenwyr yr un mor awyddus i daro cefn y rhwyd yn y pen arall o flaen camerâu Sgorio yn gêm fyw’r penwythnos. Sgoriodd Lee Hunt ei drydedd gôl o’r tymor yn erbyn ei gyn glwb, Bangor, ddydd Sadwrn diwethaf a bydd yn gobeithio bod yn holliach er mwyn ychwanegu at ei gyfanswm yn Stadiwm Marston’s y penwythnos hwn. Bydd y prif sgoriwr, Chris Mason (pum gôl) a’r chwaraewr canol cae Mark Connolly (pedair gôl) hefyd yn gobeithio creu argraff.

Bydd llawer o’r farn mai’r Bala yw’r ffefrynnau.

“Efallai, ond does yna ddim llawer rhwng timau yn y gynghrair hon,” meddai Caton.

“Nhw fydd y tîm cartref a dw i’n siwr y byddan nhw’n edrych ymlaen am dorf go-lew o flaen camerâu Sgorio, ond rydan ni’n ffyddiog hefyd.”

Mae Sgorio yn dechrau am 2:30 yfory gyda’r gic gyntaf am 2:45.

Gohebydd: Gwilym Dwyfor Parry