Bydd rhaid i chwaraewyr Lido Afan ddod o hyd i’w ’sgidiau sgorio os ydyn nhw am drechu’r yng ngêm fyw Sgorio yn Stadiwm Marston’s yfory.
Dim ond pum gôl y mae’r tîm o Bort Talbort wedi sgorio yn naw gêm gynta’r tymor, a bydd rhaid gwella ar y record honno os ydyn nhw am gipio’r tri phwynt y penwythnos hwn.
Dim ond pedwar pwynt y mae Lido wedi eu casglu yn eu pum gêm ddiwethaf gan sgorio dim ond dwy gôl. A chic o’r smotyn oedd un o’r rheiny, sef honno yn y gêm oddi cartref yn Y Drenewydd nos Wener ddiwethaf, gêm a gollodd Lido Afan o 2-1 ar ôl methu llu o gyfleon.
Ac mae’n amlwg fod anallu ei dîm i roi’r bêl yn y rhwyd yn dechrau poeni’r rheolwr, Andy Dyer. “Mae’r ffordd yr ydym ni’n gwastraffu cyfleon yn broblem fawr, dydi hi ddim fel pe baen ni’n methu creu cyfleon, methu eu cymryd nhw yr ydyn ni. Ac os nad ydych chi’n cymryd eich cyfleon dydych chi ddim yn haeddu dim byd,” meddai ar ôl y golled yn erbyn y Drenewydd.
Un peth fydd yn codi calon cefnogwyr Lido Afan cyn y gêm yfory yw’r ffaith fod eu tîm wedi gwneud yn dda iawn yn eu gêmau cartref ers dychwelyd i’r Uwch Gynghrair eleni. Mae pob un o wyth pwynt Lido y tymor hwn wedi eu hennill yn eu gêmau cartref.
Yn wir, roedd hynny yn rhywbeth arall a oedd yn poeni Andy Dyer yn dilyn y gêm yn y Drenewydd. “Rydym yn dibynnu gormod ar ein gêmau cartref, ond wrth chwarae yn erbyn timau sydd yn agos atom yn y tabl rhaid i ni ddechrau ennill pwyntiau ble bynnag y mae’r gêm.”
Ac er bod wyth pwynt yn gwahanu’r ddau dîm cyn y gêm, dim ond dau dîm arall sydd rhyngddyn nhw yn y tabl felly dichon y bydd Dyer yn targedu hon fel gêm y gall ei chwaraewyr gipio pwynt, os nad tri, ohoni.
Mae Sgorio yn dechrau am 2:30 yfory gyda’r gic gyntaf am 2:45.
Gohebydd: Gwilym Dwyfor Parry