Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi herio aelodau ei dîm i ddangos eu hunan hyder newydd wrth iddyn nhw wynebu’r Swistir heno yn y gêm ragbrofol Euro 2012 ar faes y Liberty yn Abertawe.

Ar ôl eu dechrau siomedig wrth iddyn nhw golli pedwar gwaith yn ddilynol yn eu hymgyrch Grŵp G, mi wnaeth tîm Cymru ddechrau dangos eu doniau yn eu buddugoliaeth dros Montenegro, a’r gêm agos y mis diwethaf yn erbyn Lloegr pan wnaethon nhw golli o un gôl yn unig.

Yr her yn awr yw ennill a cheisio gorffen yn y drydedd safle ar ddiwedd yr ymgyrch.

Er bod y Swistir yn dîm cryf, dywed Ramsey, chwaraewr canol y cae Arsenal, bod yr amser wedi dod i’r Cymry ddangos eu bod nhw’n gallu cystadlu ar y maes rhyngwladol.

Meddai, “Ffydd ydi’r prif wahaniaeth (yn dilyn gemau y mis diwethaf). “Mi rydan ni’n credu yn awr ein bod ni’n gallu cystadlu yn erbyn y math yma o wrthwynebwyr.”

“Fe ddylswn ni fod wedi ennill yn erbyn Lloegr. Mae’r gallu genon ni erioed ond mae’n rhaid inni ddangos fwy o gysondeb, gan obeithio wedyn y byddwn yn ennill mwy o bwyntiau.”

“Mae’r Swistir yn dîm da sydd efo siawns dda  i fynd bellach yn y gystadleuaeth, ond mi wnawn ni ganolbwyntio ar ein gêm ein hunain ac adeiladu, dwi’n gobeithio, ar yr hyn rydym wedi ei wneud yn ein perfformiadau diwethaf, gan gadw’r momentwm i fynd ac ennill o ganlyniad.”

Bydd Joe Allen yn chwarae yng nghanol y cae gyda Ramsey heno gan fod Joe Ledley wedi ei anafu.

Uchafbwyntiau heno ar Sgorio, S4C, am 10.35.