Owain Schiavone sy’n ystyried dewis yr hyfforddwr o faswr ar gyfer y gêm yna yfory…
Gêm rownd wyth ola’ Cwpan Rygbi’r Byd.
Gêm bwysicaf Cymru erioed efallai? Yn sicr y gêm bwysicaf dw i’n ei chofio.
Ac ar wahân i Mathew Rees, mae’r chwaraewyr i gyd ar gael i Warren Gatland eu dewis i gamu i’r maes yn erbyn y Gwyddelod.
Pwy fyddai wedi meddwl flwyddyn yn ôl, na, pwy fyddai wedi meddwl ddeufis yn ôl mai Rhys Priestland fyddai’n dechrau’n safle’r maswr i Gymru, ac na fyddai lle i Stephen Jones yn y garfan o 22 o gwbl. Nid fi yn sicr.
Fel un sy’n dilyn rhanbarth y Scarlets, dw i wedi dilyn datblygiad Rhys Priestland hefyd. Er gwaethaf fflachiadau, tan tua chanol y tymor diwethaf doeddwn i heb fy argyhoeddi fod y Cymro Cymraeg unrhyw le’n agos at fod yn olynydd hirdymor i Stephen Jones fel maswr y Scarlets, heb sôn am Gymru.
Erbyn hyn, mae hynny’n edrych yn senario realistig iawn, ac yn wir yn senario cyffrous iawn i’w ranbarth ac i’r tîm rhyngwladol.
Gwendidau a chryfderau
Tydi Priestland ddim yn berffaith o bell ffordd – er gwelliant mawr yn ei gêm dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tipyn o waith eto i’w wneud.
Mae cwestiynau am ei amddiffyn ac nid yw’n daclwr arbennig o gryf, yn enwedig o’i gymharu â Stephen Jones, sydd fel cael trydydd blaenasgellwr ar y cae (neu bedwerydd os ydach chi’n cyfrif Gethin Jenkins hefyd!).
Gall cicio Priestland fod yn anghyson hefyd, yn enwedig at y pyst. Fel mae’r sylwebydd Huw Eic yn ein atgoffa’n rheolaidd, mae llwyddiant ei gêm gicio’n dibynnu llawer ar ei gic gyntaf at y pyst.
Er hynny, mae ei hyder yn llawer uwch erbyn hyn a bydd hyder tîm hyfforddi Cymru ynddo’n siŵr o fod yn hwb pellach.
Wrth gwrs, mae’r cryfderau’n bwysicach na’r gwendidau.
Prif gryfder Priestland sydd wedi dod i’r amlwg yng Nghwpan y Byd yw ei fod yn cael y gorau o’r rhai eraill o’i gwmpas, ac yn arbennig felly prif arf ymosodol Cymru dan Warren Gatland – Jamie Roberts.
Mae Priestland yn chwarae gêm fflat iawn, ac yn barod i ymosod llinell amddiffynnol y gwrthwynebwyr. Mae hyn yn tynnu dynion ato gan ryddhau lle i’r rhai tu allan iddo, a does neb wedi elwa’n fwy o hynny na Roberts, sy’n chwarae ei rygbi gorau ers taith y Llewod ddwy flynedd yn ôl.
Druan o Stephen
Ers i’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod gael ei chyhoeddi, mae’r ymadrodd ‘druan o Stephen’ wedi bod yn un sydd wedi atseinio trwy Gymru.
Go brin y bydd Stephen Jones yn teimlo unrhyw hunandosturi. Mae’n chwaraewr hynod gystadleuol, ac fe fydd yn siomedig o fethu â chwarae rhan mewn gêm mor allweddol i’w wlad, ond fe fydd hefyd yn falch iawn o’i brentis.
Heb os mae cael Jones yn fentor iddo wedi gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad Priestland ar y cae ac oddi arno, a bydd yn dal i fod yn ddylanwad arno am rai blynyddoedd eto rwy’n siŵr.
Penderfyniad dewr
Ac yntau wedi profi ei ffitrwydd, ychydig iawn fyddai wedi darogan na fyddai Stephen Jones i gyda’i 102 o gapiau – yn y garfan o gwbl.
Rhaid cwestiynu’r penderfyniad i anwybyddu rhywun sydd â’r fath brofiad a dawn i reoli gêm. Gêm bwysicaf Cymru ers blynyddoedd maith, a phenderfynu gadael chwaraewr mwyaf profiadol y garfan allan yn gyfan gwbl?
Mae’n benderfyniad dewr a dweud y lleiaf.
Os yn ffit, roedd rhaid cael James Hook ar y fainc. Mae’n gallu chwarae mewn tri safle felly mae’n gwneud synnwyr.
Bydd rhai yn dadlau y dylai fod yn dechrau yn y canol gyda Jamie Roberts, ond er nad ydyw wedi sefyll allan yn y bencampwriaeth, dw i’n tybio bod John Davies yn gwneud llawer o’r gwaith caib a rhaw sy’n mynd heb ei weld.
Os oes angen, gall Hook ddod o’r fainc a chael impact ar y gêm.
Mae Scott Williams wedi creu argraff yn y ddwy gêm ddiwethaf, ac mae’n un i’r dyfodol heb os, ond byddai dyn yn llawer mwy cyfforddus o weld Stephen Jones yn llenwi un o seddi’r fainc.
Does gen i ddim amheuaeth mai Rhys Priestland ddylai ddechrau yn safle’r maswr ddydd Sadwrn, ond dw i ddim yn siŵr o ddoethineb gollwng Stephen Jones o’r garfan o 22 chwaraewr.
Mae’n gambl gan Gatland, a does ond gobeithio ei fod yn gambl fydd yn talu ei ffordd fore Sadwrn.