Stephen Jones - ddim yn y 22
Mae dewis tîm ifanc yn golygu na fydd Iwerddon yn “gwybod beth i’w ddisgwyl” gan y Cymru, yn ôl y sylwebydd rygbi Alun Wyn Bevan.

Fe fydd Cymru yn gobeithio efelychu eu camp yng Nghwpan y Byd 1987 gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol am yr ail waith yn eu hanes drwy faeddu’r Gwyddelod ddydd Sadwrn.

Mae Warren Gatland wedi dewis tîm ifanc i wynebu Iwerddon, â James Hook ar y fainc a Stephen Jones wedi ei adael allan o’r 22.

Cyhoeddodd Warren Gatland ei dîm y bore ma, ac roedd syndod ymysg rhai mai Rhys Priestland yn hytrach na Stephen Jones fydd yn dechrau yn safle’r maswr.

Ond dywedodd y sylwebydd Alun Wyn Bevan nad oedd yn gofidio am ddewis Gatland.

“Fe fydd Stephen Jones yn siomedig, ond mae yna ryw faint o Stephen yn Rhys Priestland… dros y blynyddoedd diwethaf mae Priestland wedi bod yn apprentis i Stephen Jones yn y Scarlets.”

Wrth ymateb i ddewis Warren Gatland dywedodd Alun Wyn Bevan fod “yn rhaid canmol Gatland am fuddsoddi yn y to ifanc”.

“Rwy’n falch fod Leigh Halfpenny yn cael ei gyfle yn safle’r cefnwr, am mae ei athrylith e enillodd y gem i Gymru yn erbyn Samoa.”

Ychwanegodd hefyd fod y canolwr Scott Williams “yn anffodus o golli ei le” ar ôl sgorio yn erbyn Namibia a Ffiji.

‘Dewis anodd’

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru mewn cynhadledd i’r wasg fod dewis y tîm wedi bod yn anodd ac ei fod wedi trafod yn ddwys gyda’i gyd-hyfforddwyr o flaen llaw.

Penderfynodd ddewis cyfuniad Jamie Roberts a John Davies yn ganolwyr am eu gwaith amddiffynnol ynghyd a’i gallu i groesi’r linell fantais.

Mae Declan Kidney wedi dewis yr un tîm a drechodd yr Eidalwyr y penwythnos diwethaf, gan enwi’r bachwr Rory Best yn y pymtheg cyntaf yn y gobaith fe fydd yn holliach i herio’r Cymry.

Mae sawl Gwyddel wedi cyfeirio at brofiad chwaraewyr Munster a Leinster yng Nghystadleuaeth Cwpan Heineken fel prawf y byddwn nhw’n llwyddiannus yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Ond dywedodd Alun Wyn Bevan nad oedd yn cytuno â’r farn honno.

“Maen nhw’n gwybod beth sydd ei angen mewn cystadleuaeth o’r fath, ond ry’n ni’n nabod eu chwaraewyr nhw’n dda iawn. Does dim syniad ganddyn nhw beth i’w ddisgwyl gennym ni.

“Fe fydd hi’n gem galed, a dim ond un neu ddau o gyfleoedd caiff Cymru. Ond rwy’n gweld Cymru yn ei hennill hi.”