Joe Allen
Mae anafiadau i nifer o chwaraewyr canol cae Cymru wedi agor y drws i’r Cymro Cymraeg Joe Allen ddechrau ei gêm gyntaf yng nghrys coch Cymru nos Wener.

Am y tro cyntaf erioed y prynhawn yma roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnal cynhadledd i’r wasg oedd yn cael ei dangos yn fyw ar-lein ar Facebook a gwefan y Gymdeithas.

Yn y gynhadledd fe gyhoeddodd Gary Speed fod anafiadau i Jack Collison ac Andy King tra bod David Vaughan hefyd yn dioddef o donsilitis.

Mae chwaraewr canol cae Celtic, Joe Ledley, eisoes wedi ei adael allan o’r garfan oherwydd anaf, sy’n golygu bod cyfle gwirioneddol i Joe Allen o Abertawe ddechrau’r gêm yn erbyn Y Swistir.

Allen a Ramsey ddim yn rhy debyg

Mae Joe Allen wedi cael rhediad da yn nhîm cyntaf Abertawe yn ddiweddar, er iddo gael ei adael allan o’r tîm cyntaf yng ngemau cyntaf y tymor.

“Mae Joe Allen wedi dangos ei safon” meddai Speed.

“Roedd yn seren y gêm yn erbyn Stoke, ac mae o’n datblygu’n dda.”

Mae nifer wedi cwestiynu’r ffaith bod Joe Allen a chapten Cymru, Aaron Ramsey yn rhy debyg o ran steil i chwarae gyda’i gilydd yn yr un tîm.

“Dim o gwbl” oedd ymateb Speed wrth gael ei holi ar y mater.

“Dwi’n meddwl y gallan nhw yn sicr chwarae yng nghanol y cae gyda’i gilydd.”

Anodd dewis carfan

Wrth drafod cryfder opsiynau canol cae Cymru, cyfaddefodd Speed fod ganddo gur pen braf wrth ddewis tîm ar hyn o bryd.

“Mae’n anodd dewis carfan, heb sôn am dîm ar hyn o bryd oherwydd y safon sydd gennym ni” meddai Speed.

“Bydd chwaraewyr yn methu’r gêm ond dwi’n hyderus fod gennym ni chwaraewyr i gamu mewn i lenwi’r bwlch, gan wybod beth sydd angen ei wneud.”

“Dyna beth rydan ni wedi gosod mewn lle yma rŵan.”

Blake yn blodeuo

Un arall sy’n methu’r gêm oherwydd anaf yw amddiffynnwr canol Aston Villa, James Collins.

Mae Darcy Blake o Gaerdydd, a greodd argraff yn y gemau yn erbyn Montenegro a Lloegr ym mis Medi, yn debygol o ddechrau yn erbyn  Y Swistir felly.

“Mae popeth gan Darcy – mae o’n gyflym a chryf ac mae o jyst angen bach mwy o hyder yn ei allu” meddai Speed.

“Roedd James yn siomedig i gael ei adael allan yn erbyn Lloegr, a buaswn i’n siomedig petai o ddim, ond roedd Darcy wedi chwarae cystal yn erbyn Montenegro doedd dim modd i mi ei adael allan.”