David Edwards (llun Wolves)
Mae chwaraewr canol cae Wolves David Edwards yn cyfaddef ei fod yn wynebu her wrth geisio cadw ei le yn nhîm Cymru.

Mae Edwards yn dychwelyd i garfan Cymru am y tro cyntaf ers 12 mis ar gyfer y gemau yn erbyn Y Swistir a Bwlgaria.

Wedi gwella o anaf i’w gefn, mae’r chwaraewr 25 mlwydd oed yn ymwybodol fod yna gystadleuaeth ffyrnig am y safleoedd yng nghanol cae Cymru.

‘‘Mae yna lawer o gystadleuaeth yna, mae’n fwy cystadleuol nawr nag y mae wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf’’, meddai Edwards.

‘‘Mae yna lawer o chwaraewyr o’r Uwch Gynghrair yn y garfan nawr, gyda rhai fel Joe Allen ac Andrew Crofts yn cael eu hychwanegu i’r rhestr yn ddiweddar’’.

Munudau’n ddigon

Er hynny, mae Edwards yn barod i gystadlu am ei le ac yn falch i fod nôl yn y garfan.

‘‘I mi yn bersonol, mae’n dda bod yn nôl yn y garfan.  Byddaf yn ymarfer yn galed, ac os byddai’n digon ffodus i gael cwpwl o funudau ar y cae byddaf wrth fy modd’’.

‘‘Rwy’n teimlo’n ffit ac yn gryf ond dwi angen amser cystadleuol ar y cae. Rwyf wedi dechrau nôl yn Wolves, ac yn gobeithio y gallaf cael rhai munudau ar y cae yr wythnos hon’’.

Diwedd cyfnod rhwystredig

Mae Cymru’n cwblhau ei hymgyrch aflwyddiannus yng ngemau rhagbrofol Ewrop 2012 yn erbyn Y Swistir yn Stadiwm y Liberty nod fory, cyn herio Bulgaria yn Sofia nos Fawrth nesaf.

Mae Edwards wedi colli’r saith gêm ryngwladol diwethaf oherwydd anaf i’w gefn, ac yn cyfaddef fod y cyfnod hwnnw yn un rhwystredig iawn.

‘‘Mae wedi bod yn saith mis hir ers yr anaf’’, meddai Edwards.

‘‘Mae yna gyfnodau tywyll pan rydych wedi’ch anafu am gyfnod hir’’.

‘‘Mae’r hyfforddwr (Gary Speed) wedi fy ffonio nifer o weithiau ac fe es i wylio llawer o’r gemau, felly fe gadwodd hynny fy niddordeb’’.

‘‘Roedd yn braf cael fy nghynnwys yn y garfan, byddai wedi bod yn saith mis erchyll pe bawn i ddim wedi cadw cysylltiad â’r garfan’’.

‘‘Roedd cyfnodau lle’r oeddwn bron a bod yn ffit ond yna’n dioddef o rhyw fath o ergyd, yr oedd hynny yn galed i’w ddelio gyda weithiau’’.

‘‘Ond rwyf wedi bod yn ymarfer am bron a bod chwech wythnos ac yn teimlo’n dda a does dim problemau eraill gyda’r cefn.’’