James Hook
Leigh Halfpenny – yn hytrach na James Hook neu Lee Byrne – fydd yn safle’r cefnwr wrth i Gymru herio Iwerddon yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddydd Sadwrn.
Er bod Hook yn holliach yn dilyn anaf i’w ysgwydd yn gêm Samoa, mae’r hyfforddwr Warren Gatland wedi dewis Halfpenny a gymerodd ei le yn y gêm honno.
Mae James Hook, sy’n gallu chwarae yn safle’r cefnwr, y maswr eu’r canolwr, ar y fainc.
Ond bydd y blaenasgellwr Dan Lydiate yn dychwelyd i’r 15 cyntaf yn y tîm a gyhoeddwyd gan Warren Gatland yn Seland Newydd heddiw.
Mae Lydiate wedi gwella o anaf i’w ffêr a Ryan Jones yn dychwelyd i’r fainc.
Bydd Shane Williams yn dychwelyd i’w grys rhif 11 ar ôl methu dwy gêm ag anaf i’w glun.
Does yna ddim lle i’r tri llew Lee Byrne, Stephen Jones na chwaith Andy Powell wrth i Gymru obeithio sicrhau eu pencampwriaeth fwyaf llwyddiannus ers 1987.
Dywedodd Warren Gatland mai cyfarfod yr hyfforddwyr cyn dewis y tîm oedd “un o’r hiraf yr ydw i’n ei gofio erioed”.
“Mi’r oedd yn gyfarfod anodd iawn ac roedden ni wedi ystyried pob dewis oedd ar gael i ni. Roedd sawl chwaraewr da yn dychwelyd ond ambell un wedi gwneud yn dda iawn yn y cyfamser.
“Rydyn ni’n credu mai dyma’r tîm fydd yn gallu maeddu Iwerddon ddydd Sadwrn.”
Tîm Cymru
L Halfpenny (Gleision); G North (Scarlets), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), S Williams (Gweilch); R Priestland (Scarlets), M Phillips (Bayonne); G Jenkins (Gleision), H Bennett (Gweilch), A Jones (Gweilch), L Charteris (Dreigiau), A-W Jones (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau), S Warburton (Gleision, capt), T Faletau (Dreigiau).
Replacements: L Burns (Dreigiau), P James (Gweilch), B Davies (Gleision), R Jones (Gweilch), L Williams (Gleision), J Hook (Perpignan), S Williams (Scarlets).