Danny Wright
Nos Fawrth roedd Wrecsam yn chwarae yn erbyn Gateshead y tîm ar frig y Gyngres. Yn anffodus i Wrecsam roedd yn rhaid chwarae heb ein golwr Chris Maxwell, ein prif sgoriwr Jake Speight, Westwood, Tolley a Fowler.

Rhoddodd hyn gyfle i Joe Clark gychwyn gem am y tro cyntaf a rhoi lle i Danny Ward a Johny Hunt ar y fainc. Roedd gan Gateshead ddau chwaraewr wedi’i hanafu hefyd, yn anffodus iddyn nhw roedd y ddau yn amddiffynwyr canol.

Pan mae tîm yn dioddef anffawd fel hyn, rhaid eu taro’n fuan i weld os oes gwendid, ac wedi 4 munud yr oedd Danny Wright wedi gwyro’r bêl i gornel y rhwyd i roi Wrecsam ar y blaen.

Roedd Gateshead yn chwarae’n arbennig o dda, yn cadw’r bel am gyfnodau hir o amser ond heb gael llawer o lwyddiant o flaen gôl.

Roedd Mayebi yn y gôl i Wrecsam yn sicr y rhan fwyaf o’r amser wrth ddod am y bêl a byddai wedi bod yn haws rhedeg trwy wal frics na heibio Knight-Percival a’r Anghenfil – Mark Creighton.

Clark yn dal y llygad

Roedd Wrecsam ar dân eto wedi’r egwyl, a phedair munud wedi’r hanner fe sgoriodd Joe Clark ei gôl gyntaf i’r clwb gyda chymorth gwyriad creulon a roddodd ddim cyfle i’r golwr.

Roedd y gôl yn hollol haeddiannol i Clark, ac roedd bron iawn a sgorio ail yn hwyrach yn yr hanner. Mae Joe wedi rhoi problem hyfryd i Andy Morrell gan y byddai’n anodd iawn ei ddisodli o’r tîm nawr.

Ar ôl awr fe gododd yr Anghenfil i benio o gic cornel ac wrth geisio clirio’r bêl fe darodd Ewan Moyes hi i gefn y rhwyd – tair i ddim i Wrecsam.

Ychydig funudau yn ddiweddarach roedd gan Gateshead lygedyn o obaith wrth i Chris Gate fachu gôl yn ôl ac roeddwn yn teimlo’n nerfus, byddai’r gôl nesaf (pe bae un) yn hollbwysig.

Lwc yn troi i gyfeiriad Wrecsam

Roeddwn yn flin wythnos yn ôl gan fod Mansfield wedi  ein curo gyda gôl i’n rhwyd ein hunain, cic o’r smotyn a gôl pan oedd pawb yn ymosod yn kamiaze. Cafodd Wrecsam lawer mwy o gyfleoedd na nhw a cholli’r gêm .

Nos Fawrth roedd Gateshead yn chwarae’n dda, llawer gwell na Mansfield yn fy nhyb i.

Fodd bynnag, bu i ni sgorio gôl gynnar, gôl ar ôl gwyriad anferth, gôl i’w rhwyd eu hunain gan Gateshead ac yna, wedi i amddiffynnwr lorio Obeng yn y cwrt ,fe sgoriodd Keates o gic o’r smotyn.

Roedd yn ganlyniad arbennig. Hyd yn oed yn well gan weld yr holl chwaraewyr oedd yn absennol.

Rydan ni ddau bwynt yn glir ar frig yr adran wedi chwarae un yn fwy na’r mwyafrif. Mae’n well gen i gael y pwyntiau yn y bag na chael breuddwydion am ennill gemau wrth gefn.

Gan edrych ar frig yr adran rydym wedi chwarae 10 o’r 12 uchaf felly dim ond Braintree sy’n ein disgwyl a siawns bydd cyfnod  haws o gemau ar y gorwel.