Mae un o ser tenis ifanc De Cymru, Evan Hoyt, wedi helpu tîm bechgyn Dan 16 Prydain i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Iau Cwpan Davis ym Mecsico.

Roedd Evan, o Lanelli, yn rhan o dîm o dri chwaraewr o Brydain, dan gapteniaeth Greg Rusedski, fu’n cymryd rhan yn rowndiau terfynol byd-eang Pencampwriaeth Iau Cwpan Davis gan BNP Paribas.

Roedd Evan Hoyt, Kyle Edmund a Luke Bambridge wedi ennill yr ail ddetholion, yr Eidal, 2-0 yn y rownd derfynol ar y nos Sul i gipio’r teitl.

Rhoddodd Evan ddechrau perffaith i Brydain trwy guro Stefano Napolitano 6-4, 6-3 yn yr ornest senglau gyntaf.

Meddai Greg Rusedski: “Rwy’n falch iawn o’r tîm.  Mae’n deimlad gwych i fod y tîm cyntaf erioed o Brydain i ennill Pencampwriaeth Iau Cwpan Davis.”

Dechreuodd y tîm yr wythnos gyda thair buddugoliaeth ddilynol ar lefel y grwpiau yn erbyn Gwlad Thai, Yr Almaen a Chanada, cyn goresgyn y chweched detholion, Ffrainc, yn y rownd gynderfynol ar y dydd Sadwrn.

Yn gynharach yn y flwyddyn, helpodd Evan dîm Prydain Fawr i ennill Cwpan Borotra am y tro cynta’ yn hanes deugain mlynedd y bencampwriaeth.  Enillodd ei ornest rownd gyntaf yn Adran Iau Wimbledon hefyd, ac ymddangosodd ym mhenawdau’r papurau cenedlaethol pan wynebodd Rafa Nadal mewn ymarfer cynhesu ar y cwrt.

Meddai Peter Drew, Prif Weithredwr Tenis Cymru:  “Mae hwn yn llwyddiant aruthrol i Evan ac yn arwydd pellach bod ‘na ddyfodol addawol iawn i’r byd tenis yng Nghymru a Phrydain.”