Andy Morrell - ennill eto
Aeth Wrecsam yn ôl i frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth ardderchog oddi cartre’ yn erbyn y tîm oedd ar y top.

Mae’n cryfhau achos y rheolwr tros dro, Andy Morrell, i gael y swydd yn barhaol – mae’r tîm wedi ennill tair o’u pedair gêm o dan ei ofal, o’i gymharu ag un pwynt allan o naw yn nhair gêm ola’ Dean Saunders.

Fe gafodd y Dreigiau ddechrau perffaith, gyda gôl gynnar gan Danny Wright. Ar ôl cael ei ddewis i ddechrau ar ôl perfformiad da yn eilydd ddydd Sadwrn, Adrian Cieslewicz a greodd y gôl.

Fe aeth yn agos at sgorio’i hun wedyn ac roedd Wrecsam 1-0 ar y blaen ar yr hanner er gwaetha’ cyfnodau da gan Gateshead.

Yr ail hanner

Fe gafodd gôl gan Wrecsam ei gwrthod yn gynnar yn yr ail hanner, cyn i Clarke gael gôl lwcus ac i Creighton sgorio gyda pheniad a drawodd un o amddiffynwyr Gateshead a mynd i mewn.

Er bod Gateshead wedi taro’n ôl gydag un gôl, fe greodd Cieslewicz gyfle i Curtis Obeng a, phan gafodd hwnnw’i faglu, fe sgoriodd y capten Dean Keates o’r smotyn.

Cyn y gêm, roedd rheolwr Gateshead wedi rhybuddio eu chwaraewyr eu bod nhw’n agored i gael eu taro o’r brig … roedd yn hollol gywir.