Rory Best - yr unig amheuaeth
Fe fydd Iwerddon yn cadw eu tîm llwyddiannus ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn – yr unig amheuaeth yw ffitrwydd y bachwr Rory Best.
Fe fydd y penderfyniad arno ef yn cael ei adael tan y funud ola’, 48 awr cyn y gic gynta’, meddai hyfforddwr y Gwyddelod, Declan Kidney.
Roedd yn mynnu fod gan y chwaraewr obaith o’i gwneud hi erbyn yr ornest yn wyth ola’ Cwpan y Byd, ond mae Sean Cronin wrth law rhag ofn.
“Fe gafodd ddiwrnod da ddoe ac roedd pawb yn bositif am hynny,” meddai. “Mae’n gwneud cynnydd ardderchog ond r’yn ni’n cymryd un dydd ar y tro.”
Profiad
Mae rhai o’r chwaraewyr eraill yn dangos mai brwydr rhwng profiad a ieuenctid fydd hon, gyda’r ail reng Donncha O’Callaghan yn ennill ei 80 fed cap, gan ddilyn ei bartner Paul O’Connell, a groesodd yr un rhicyn ynghynt yn y gystadleuaeth.
Fe fydd y maswr, Ronan O’Gara, yn ennill ei 116fed cap a’r capten Brian O’Driscoll yn arwain ei dîm am yr 80fed tro mewn gêm brawf.
Y disgwyl yw y bydd un o’r brwydrau caleta’ yn y rheng ôl ble bydd chwaraewr gorau Grŵp D, Sam Warburton o Gymru, yn wynebu chwaraewr gorau Grŵp C, Sean O’Brien.
Mae ei gyd chwaraewr yng nghefn y sgrym, Stephen Ferris a Jamie Heaslip, hefyd wedi bod ymhlith sêr y gystadleuaeth.
Fe fydd un o’r Gwyddelod yn adnabod y Cymry’n dda – Tommy Bowe o’r Gweilch fydd yr asgellwr de.
Y tîm yn llawn
15 – Rob Kearney (UCD/Leinster)
14 – Tommy Bowe (Gweilch)
13 – Brian O’Driscoll (UCD/Leinster) (capten)
12 – Gordon D’Arcy (Lansdowne/Leinster)
11 – Keith Earls (Young Munster/Munster)
10 – Ronan O’Gara (Cork Constitution/Munster)
9 – Conor Murray (Garryowen/Munster)
1 – Cian Healy (Clontarf/Leinster)
2 – Rory Best (Banbridge/Ulster)/Sean Cronin (Leinster)
3 – Mike Ross (Clontarf/Leinster)
4 – Donncha O’Callaghan (Cork Constitution/Munster)
5 – Paul O’Connell (Young Munster/Munster)
6 – Stephen Ferris (Dungannon/Ulster)
7 – Sean O’Brien (Clontarf/Leinster)
8 – Jamie Heaslip (Naas/Leinster)
Eilyddion:
16 – Sean Cronin (Leinster)/Damien Varley (Garryowen/Munster)
17 – Tom Court (Malone/Ulster)
18 – Donnacha Ryan (Shannon/Munster)
19 – Denis Leamy (Cork Constitution/Munster)
20 – Eoin Reddan (Lansdowne/Leinster)
21 – Jonathan Sexton (St. Mary’s College/Leinster)
22 – Andrew Trimble (Ballymena/Ulster)