Mae’r cystadlu wedi dechrau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Mae disgwyl i hyd at 90,000 o bobl ymweld â’r ŵyl dros y dyddiau nesaf wrth i Eisteddfod yr Urdd gynnig mynediad am ddim am y tro cyntaf erioed. Mae’n golygu na fydd miloedd o gystadleuwyr ifanc yn gorfod prynu tocynnau er mwyn cystadlu. Yn ogystal, bydd y maes ei hun ar agor i bawb yn rhad ac am ddim.
Bydd angen i bob oedolyn brynu band braich er mwyn cael mynediad i holl ragbrofion a Phafiliwn yr Eisteddfod ond fe fydd mynediad i gystadleuwyr yn rhad ac am ddim.
Meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Rydyn ni’n hynod falch o allu cynnig mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.
“Mae’r Urdd yn ymhyfrydu ein bod yn sefydliad cynhwysol ac agored i blant a phobol ifanc o bob cefndir a’r gobaith yw y bydd cynnig maes di-dâl yng nghanol prifddinas Cymru yn denu ymwelwyr na fyddai o bosib yn ymweld ag eisteddfod neu ddod i gysylltiad â’r Urdd yn arferol.”
Bydd y drefn newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2019 yn golygu:
- Mynediad am ddim i faes yr Eisteddfod yn y bae i bawb.
- Mynediad am ddim i leoliadau cystadlu a pherfformio i’r holl gystadleuwyr o bob oed a phlant o dan 18 oed.
- Bydd bandiau braich dyddiol ar werth sy’n caniatáu i oedolion gael mynediad i’r rhagbrofion a’r Pafiliwn i wylio’r cystadlu.
- Bydd angen i bawb prynu tocynnau ar gyfer y sioeau a chyngherddau nos.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal tan ddydd Sadwrn, Mehefin 1.