Mae mwy o bobol wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni na’r llynedd, meddai’r mudiad ar drothwy’r Eisteddfod ym Mae Caerdydd.
70,530 o bobol sydd wedi cofrestru eleni ar gyfer cystadlaethau’r llwyfan a chelf, dylunio a thechnoleg, o’i gymharu â 65,423 y llynedd.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng Mai 27 – Mehefin 1, ac mae’n cynnig mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes.
“Rydym yn hynod falch o’r cynnydd yn nifer y cystadleuwyr ac mae’n dda iawn gweld bod ffigurau rhanbarth Caerdydd a’r Fro, sy’n croesawu’r ŵyl eleni, yn dangos cynnydd o 48% rhwng 2018 a 2019 sy’n adlewyrchu’r brwdfrydedd a’r ymroddiad yn lleol,” meddai Morys Gruffydd, trefnydd yr Eisteddfod.
Digwyddiadau
Ymhlith uchafbwyntiau’r Eisteddfod eleni mae digwyddiadau i’r teulu cyfan, dros 100 o stondinau, arddangosfa Celf Dylunio a Thechnoleg yn adeilad y Senedd a llong arbennig RV Mary Anning yn y GwyddonLe.
Bydd angen band braich i fynd i wylio’r cystadlu a’r rhagbrofion, a thocynnau ar gyfer y Sioe Gynradd Troi Heddiw yn Ddoe, y Sioe Ieuenctid Twiglets, Pwnsh a Buckaroo a’r Cyngerdd Agoriadol.
Bydd llu o gerddoriaeth ar ddau lwyfan, y Lanfa yng Nghanolfan y Mileniwm a llwyfan awyr agored yn y Bae o flaen adeilad y Senedd.
Ymhlith y perfformwyr eleni mae Gwilym, Kizzy Crawford, Mei Gwynedd a Patrobas.
Bydd Chroma, Fleur de Lys a Gwilym yn perfformio mewn cyngerdd rhad ac am ddim nos Wener, a Band Pres Llareggub yn brif atyniad gig nos Sadwrn.
Cyngerdd Agoriadol
Trystan Ellis-Morris fydd yn arwain cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod nos Sul (Mai 26) yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm.
Ymhlith y perfformwyr mae Bethzienna (The Voice), Mei Gwynedd, Athena, Gwilym a Luke McCall.
Mae Bethzienna yn hen gyfarwydd ag Eisteddfod yr Urdd, a hithau wedi cystadlu droeon yn y gorffennol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o Gyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd eleni,” meddai’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg.
“Roeddwn yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn ac mae gen i atgofion melys iawn o gystadlu gydag Ysgol Gynradd Sant Baruc ac wedyn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
“Pan fydda i’n meddwl am fy mhrofiad i o’r Eisteddfod, dw i’n dal i gofio’r chwerthin, y sbort a’r cyfeillgarwch.”