Mae angen i gynghorau lleol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ystyried sut y gallan nhw wella gwasanaethau drwy ddefnyddio “dulliau newydd ac arloesol”.
Dyna yw barn Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw amlinellu mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mai 14) yr hyn maen nhw’n ei wneud i geisio datblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Yn nigwyddiad ‘Sprint’ cyntaf Llywodraeth Prydain yng Nghymru, bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn annerch arweinwyr ym maes digidol a data o bob rhan o’r sector cyhoeddus.
Ei bwriad yw tynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru yn y maes digidol, yn ogystal ag annog y sector cyhoeddus i wneud mwy i wella gwasanaethau drwy gyfrwng technoleg.
“Rhaid peidio ag aros yn ein hunfan”
“Mae’n bwysig cofio bod trawsnewid gwasanaethau’n gamp lawer mwy na chreu ochr gyhoeddus ddigidol neu wefan newydd,” meddai’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.
“Mae’n ymwneud â phopeth rydyn ni’n ei wneud i ddarparu’r gwasanaethau dan sylw, a’r angen i bawb ohonom weithio gyda’n gilydd, i ddarparu prosesau a gwasanaethau cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
“Dydy trawsnewid digidol ddim yn agenda newydd i Gymru; mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers amser.
“Serch hynny, rhaid peidio ag aros yn ein hunfan, gan barhau i osod safonau a dysgu oddi wrth eraill, ac mae heddiw’n gyfle gwerthfawr inni wneud hynny.”