Ar ôl dau fis o amheuon ac ansicrwydd, daeth cadarnhad y bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ar gyrion Llanrwst ym mis Awst, yn unol â’r bwriad gwreiddiol.

Yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith lleol neithiwr, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lleoliad y maes – sydd dafliad carreg o’r safle a oedd wedi ei glustnodi tua blwyddyn a hanner yn ôl.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn pryderon ar ôl llifogydd yn ardal Llanrwst fis Mawrth, wrth i drefnwyr yr Eisteddfod gael trafferthion i gael yswiriant ar gyfer y tir sy’n rhan o orlifdir afon Conwy.

Mae’r Maes newydd fymryn o dan ddwy filltir o ganol y dref – ar ochr ddwyreiniol yr A470 i gyfeiriad y de o Lanrwst, ar gaeau Plas Tirion a Cilcennus.

Bydd y maes carafanau rhwng y Maes a’r dref ar ochr orllewinol yr A470, tra byd Maes B wedi ei leoli wrth ochr Ffordd Nebo i gyfeiriad y de-ddwyrain o ganol Llanrwst.

Aros yn Llanrwst

“Roedden ni’n benderfynol o wneud pob ymdrech i gadw’r Eisteddfod yn Llanrwst, ac rydym wrth ein boddau bod ymdrechion pawb wedi dwyn ffrwyth,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

“Roedd dod o hyd i gynllun a oedd yn ei chadw mor agos â phosib i’r dref yn bwysig i ni o ystyried yr holl waith caled a wnaed gan bobol leol wrth drefnu’r Eisteddfod, ac roedden ni hefyd eisiau dangos ffydd yn Llanrwst.”

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nyffryn Conwy rhwng Awst 3 a 10.