Mae deiseb wedi ei hagor heddiw (dydd Iau, Mai 9) er mwyn penderfynu a ddylai Aelodau Seneddol Ceidwadol golli ei sedd ai peidio ar ôl iddo gyfaddef camarwain wrth hawlio treuliau.

Ym mis Mawrth, fe blediodd Christopher Davies, yr aelod tros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn euog i ddau achos o roi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar ffurflen dreuliau seneddol.

Roedd wedi cyflawni’r ddau achos yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill 2016.

Cafodd ei orchymyn gan Lys y Goron Southwark fis diwethaf i dalu dirwy o £1,500 a chwblhau 50 awr o wasanaeth cymunedol.

Os bydd digon o bobol yn arwyddo’r ddeiseb, sef 10% o’r etholaeth (5,303), fe allai Christopher Davies wynebu is-etholiad.

Fe fydd etholwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael cyfle i arwyddo’r ddeiseb mewn chwe lleoliad gwahanol rhwng 9yb heddiw a 5yp ar ddydd Iau, Mehefin 20.