Mae galw ar i Lywodraeth Cymru gydnabod cyfraniad figaniaeth at yr argyfwng hinsawdd yn fyd-eang.

Maen nhw ymhlith nifer o sefydliadau a phleidiau gwleidyddol sy’n cael eu hannog i gefnogi ymgyrch Cymdeithas y Figaniaid er mwyn cyrraedd targedau Ewropeaidd yn sgil yr argyfwng.

Mae’r gymdeithas yn annog gwleidyddion, gan gynnwys y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llywodraeth Prydain, yr SNP a Llywodraeth Cymru, i fabwysiadau polisïau sy’n hybu diet cynnyrch planhigion, cynnig bwydydd figanaidd yn sefydliadau’r sector cyhoeddus, a chefnogi ffermwyr sy’n symud oddi wrth ffermio anifeiliaid.

Mae llythyr wedi cael ei anfon gan y gymdeithas i’r holl sefydliadau’n gofyn am eu cefnogaeth, wrth iddyn nhw ddweud y gallai’r hyn maen nhw’n ei awgrymu leihau effaith yr argyfwng a gwella iechyd y cyhoedd drwy leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai diet figanaidd yn arwain at lai o allyriadau – mae cynnyrch cig, llaeth ac wyau yn arwain at allyriadau uchel.

‘Camau breision’

“Mae’n cael ei gydnabod yn eang fod bwyta cynnyrch anifeiliaid yn cael effaith amgylcheddol enfawr ond eto, dydy hyn ddim wedi’i gynnwys mewn polisïau,” meddai George Gill, prif weithredwr Cymdeithas y Figaniaid.

“Dydy amaeth anifeiliaid ddim wedi cymryd ei siâr o allyriadau ac mae’n dod yn gynyddol amlwg na fyddwn ni’n gallu bodloni Cytundeb Paris oni bai ein bod yn gwneud shifft genedlaethol tuag at ddiet planhigion.

“Rydym yn galw ar bleidiau gwleidyddol i weithredu ar eu haddewid a chymryd camau breision i oresgyn yr argyfwng hinsawdd drwy gyflwyno polisïau sy’n annog diet planhigion cwbl gynaladwy.”

Y camau

  • annog pobol yng ngwledydd Prydain i fabwysiadu deiet planhigion
  • cyflwyno polisïau ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal i gynnig bwydydd figanaidd bob dydd
  • cynnig cymorth ariannol ac ymarferol i ffermwyr sydd am symud oddi wrth gynnyrch anifeiliaid tuag at gnydau