Mae teulu’r ferch, 21, a gafodd ei lladd yn ardal Cathays. Caerdydd, yr wythnos hon, yn ei disgrifio fel “merch hyfryd a bywiog”.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat Lauren Griffiths ar Stryd Glynrhondda am 6.10yh ddydd Mawrth (Ebrill 30).

Mae dyn 22 oed o ardal Wrecsam, yr oedd y ferch yn ei nabod, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae teulu Lauren Griffiths yn hanu o ardal Croesoswallt.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad a marwolaeth Lauren Griffiths ar hyn o bryd.

“Person pobol go iawn”

“Roedd Lauren yn ferch hyfryd a bywiog. Roedd hi’n hoffi bod yn rhan o deulu mawr ac roedd hi’n berson pobol go iawn,” meddai teulu Lauren Griffiths mewn datganiad.

“Roedd ffasiwn unigryw Lauren bob amser yn gwneud iddi sefyll allan mewn torf ac roedd hi’n gyfforddus ac yn hyderus yn ei chroen ei hun.

“Mae Lauren wedi cael ei cymryd yn rhy gynnar, ac mae’n gadael gwagle enfawr yn ein calonnau oll.”