Y brofedigaeth o golli cymar bron i bymtheng mlynedd yn ôl yw sail y dilyniant o gerddi gan y colofnydd, Cris Dafis, sydd ar fin cael eu dwyn i olau dydd.
Yn 2005, bu farw Alex yn sydyn o ganlyniad i ddamwain yn y môr tra oedd e a’r cyfieithydd o Gaerdydd ar wyliau ar ynys Bali.
Mae Mudo, sy’n cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis gan Gyhoeddiadau’r Stamp, yn cynnwys 14 o gerddi yn ymateb i’r golled honno, er nad oedd gan Cris Dafis erioed fwriad i droi ei alar yn “sail i brosiect llenyddol”.
Cafodd y cerddi eu cyfansoddi mewn “un gwth o waith” bedair blynedd yn ôl, meddai, wedi blynyddoedd o fethu â mynegi ei deimladau ar bapur.
“Mae pobol wedi bod yn dweud erioed, fel seicolegwyr a chwnselwyr, ei bod hi’n bwysig sgrifennu am brofiadau anodd bywyd er mwyn eu cael nhw mas o’r system,” meddai Cris Dafis wrth golwg360.
“Ond do’n i ddim yn gallu am sbel. Fe gymrodd hi ddeng mlynedd a mwy i wneud hynny. “Mae[‘r cerddi] yn rhyw fath o fyfyrio neu adlewyrchu ar y profiad hwnnw, a’r effaith mae’n ei gael ar rywun.”
“Mae galar fel crawcian brân”
Wrth edrych yn ôl dros ysgwydd amser ar y cyfnod wedi’r brofedigaeth, mae Cris Dafis yn cydnabod bod y broses o sgrifennu wedi bod yn help iddo.
Thema amlycaf y cerddi yw adar yn mudo, ac mae gan y frân le canolog yn hynny, meddai’r bardd.
“Mae’r frân yn y cerddi yn rhyw fath o symbol o alar,” meddai. “Ro’n i’n ei weld e’n help i bersonoli galar, rhywsut.
“Mae galar yn rhywbeth sy’n amgylchynu bywyd rhywun, ac mae’n mynd yn rhyw bŵer nebulous…
“Roeddwn i’n ei weld e’n help i feddwl am alar fel rhywbeth diriaethol y gallwch chi gael gwared ohono fe.
“Pan y’ch chi mewn cyfnod o alar, mae’n hawdd iawn i feddwl ‘dyma beth fydd fy mywyd i am byth’, math o beth, ond… yn y pen draw, mae brain yn marw, felly mae gobaith y bydd galar yn gallu diflannu hefyd.”
Dyma glip o Cris Dafis yn darllen cerdd agoriadol y dilyniant…