Mae’r dechnoleg fideo ddiweddara’ yn rhoi cyfle i bobol Caerdydd gael blas ar gigs bandiau Cymraeg heb orfod codi o’u cadair.
Fe fydd ‘fideo ymdrochol 360’ dan y teitl Lleisiau o Gymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (Mai 2-4) yn cynnwys rhai o artistiaid amlyca’r sîn.
“O fynyddoedd Eryri i glybiau canol dinas Caerdydd, mae’r ffilm ymdrochol yma’n dangos sin gerddoriaeth egnïol Cymru,” meddai’r blyrb.
Yn ystod mis Hydref y llynedd, cafodd chwe thrac gan fandiau Adwaith, Afrocluster, The Gentle Good, Marged, Astroid Boys, Brythoniaid eu recordio a’u cymysgu mewn sain 360.
Recordiwyd y traciau mewn gigs yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ac yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.
Trwy chwe lens hemisfferig bydd ffilm Lleisiau o Gymru yn eich tywys i brofi teimladau’r artistiaid, awyrgylch eu cerddoriaeth, mew’n ffurf newydd sbon.
Ond ‘ymdrochol.’… beth ar y ddaear?
Mae fideos ymdrochol 360 yn dechnoleg newydd sy’n cael eu defnyddio’n helaeth mewn arddangosfeydd ar draws y byd erbyn hyn.
Er mwyn creu fideo o’r fath, mae’r ffilm yn cael ei recordio o bob un ongl ar yr un pryd – yn 360 gradd – gan ddefnyddio nifer o gamerâu neu camera sydd yn gallu gweld y panorama cyflawn.
Felly, wrth roi’r sbectol ‘VR’ ymlaen i wylio’r fideo, fe fydd y defnyddiwr yn teimlo ei fod yn sefyll yng nghanol yr olygfa ar y sîn – a pa bynnag ffordd mae’r defnyddiwr yn troi, bydd delweddau’r fideo ymdrochol 360 yno.
https://www.facebook.com/WalesMillenniumCentre/videos/2013985592239715/?v=2013985592239715