Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dyn 47 oed wedi’i arestio yn dilyn llofruddiaeth dyn arall ym mhentref Clydach, Abertawe ddoe (dydd Mercher, Ebrill 17).
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 8.30yh, a chael dyn 48 oed wedi marw.
Mae plismyn yn dal i fynd o ddrws i ddrws yn yr ardal yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth.
Mae’r gŵr 47 oed yn cael ei holi gan yr heddlu yn Abertawe.