Gyda gwaith ar ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon eisoes wedi dechrau, a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford i wneud penderfyniad ar gynlluniau’r M4 yn fuan iawn, mae un amgylcheddwr a naturiaethwr yn pryderu’n fawr am eu heffaith ar yr amgylchedd.
Yn ôl Duncan Brown, mae angen “meddwl yn ddyfnach nag yr ydan ni’n gwneud rŵan” ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth hefyd “liniaru’r effaith ar y blaned”.
Ers blynyddoedd, mae ymgyrchwyr wedi cwffio am ffordd osgoi er mwyn llacio traffig yn mynd drwy bentref Y Bontnewydd ger Caernarfon, ac i lawer mae’n hen bryd i’r gwaith ddechrau.
Ond “mae pobol yn gweld rŵan be ydi effaith penderfyniad i fynd ymlaen efo ffordd osgoi fel ’ma,” meddai Duncan Brown wrth golwg360.
“Mae pawb o’i blaid o, ond wedyn maen nhw’n dychryn o weld yr effaith. Dw i’n cydymdeimlo’n fawr efo pobol Bontnewydd achos maen nhw eisio cael llonydd o’r ceir, a fedra’ i ddim ffraeo efo hynny…
“Ond faswn i’n licio rhoi ffordd osgoi Bontnewydd yng nghyd-destun be da’ ni yn mynd i neud am ddarparu mwy a mwy byth a beunydd ar gyfer y car.
“Rydan ni’n gwybod yn iawn fod angen bod yn ofalus a pheidio datblygu a defnyddio tanwydd ffosil.”
“Rhaid sefyll yn ôl a meddwl”
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wneud ei benderfyniad ar ffordd yr M4 ger Casnewydd yn fuan.
Er bod Duncan Brown yn derbyn fod gwaith ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon yn mynd yn ei flaen, mae’n gobeithio y bydd mwy o ystyriaeth yn mynd i liniaru’r M4 a’i effaith ar yr amgylchedd.
“Mae’n rhaid sefyll yn ôl a meddwl, ‘be ddyla’ ni neud nesa achos mae’r amser wedi dod i wneud rhywbeth go iawn am yr hinsawdd’,” meddai.
“Mae plant yn codi ar draws y blaned. Mae’r Extinciton Rebellion wedi tynnu’n sylw ni i’r angen hyn a dyna le da’ ni yng Nghymru fach yn mynd ymlaen fel busnes as usual.”
“Rhaid dod â char-addoliaeth i ben”
“Mae’n rwbath dw i wedi bod yn tantro ers blynyddoedd – mae pobol yn meddwl mod i off fy mhen ond dwi’n dechrau gweld mod i ddim,” meddai Duncan Brown.
“Lle ’da ni’n mynd efo ceir? Lle ’da ni’n mynd efo tanwydd ffosil? Lle ’da ni’n mynd efo ffyrdd? Yda’ ni’n meddwl bod yr armageddon amgylcheddol o’n blaena’ ni yn bwysig?
“Yda ni’n meddwl bod bywyd a dyfodol ein plant ni, sydd heb bleidlais, yn bwysig?
“Mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd, a cheir a thanwydd ffosil o ddifri. Mae car addoliaeth yn rhywbeth, rhywsut neu’i gilydd, mae’n rhaid dod i ben.”