Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni wedi camu i mewn i’r ddadl ynglŷn â’r defnydd o rwydi sy’n cael eu gosod er mwyn atal adar rhag nythu.

Mewn ymateb i neges ar wefan gymdeithasol Facebook gan Dic Ben yn beirniadu’r arfer, ac yn herio trefnwyr prifwyl 2019 am eu defnydd o’r rhwydi wrth baratoi a chlirio’r Maes, mae Trystan Lewis yn dweud bod yn “rhaid” rhwystro adar rhag nythu ar y safle.

Wrth edrych ar fap ‘Nets Not Netting’ drwy beiriant chwilio Google – sy’n dangos safleoedd rhwydi adar – mae rhwydi’n cael eu rhestru ar y caeau rhwng Llanrwst a Betws-y-coed.

“Gwrthwyneb i farbaraidd”

Mae Trystan Lewis yn ymateb i sylw Dic Ben sy’n dweud ei bod yn “siomedig iawn i weld fod trefnwyr Eisteddfod Llanrwst yn gwneud defnydd o’r arddull yma”.

Ond yn ôl Trystan Lewis “mae’n rhaid i’r eisteddfod wneud hyn oherwydd y bydd ‘ne fylchu a chodi rhannau helaeth o’r gwrychoedd at faes yr eisteddfod, gan eu hadfer wrth reswm wedi’r ŵyl,”

“Felly i arbed i adar nythu cyn tynnu a bylchu a chwalu nythod, mae’r notiau yn eu hatal rhag nythu – ac mae hyn i’r gwrthwyneb o fod yn farbaraidd.

“Mi eith adar i nythu yn rhywle mewn clawdd cyfagos, ond llawer mwy trist fyddai chwalu nythod ac wyau ac amddifadu byd natur o adar bach.”

“Sut mae’n cael ei ystyried?”

Mewn ymateb i’r un postiad, mae Gorwel Owen o’r farn bod cwestiynau mawr i’w gofyn ynghylch sut mae’r Eisteddfod yn ystyried bywyd natur wrth ddewis lleoliad.

“Cwestiwn amlwg sy’n codi, ydi, sut mae hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o ddewis o ddarparu safle?” meddai.

“Ydi o’n cael ei ystyried o gwbl, hyd yn oed? Ydi’r Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod nhw wedi dewis y safle gorau o ran peidio dinistrio cynefin?”