Bydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd heno (nos Iau, Ebrill 11) er mwyn gwobrwyo perfformwyr y sin gerddoriaeth gwerin a thraddodiadol yng Nghymru.
Dyma fydd y tro cyntaf i Wobrau Gwerin Cymru gael ei gynnal, ac fe fydd yn anrhydeddu perfformwyr o Gymru sydd wedi creu argraff yn y maes canu traddodiadol yng ngwledydd Prydain a thu hwnt.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis o restr hir ar ôl iddyn nhw gael eu henwebu gan wahanol unigolion a sefydliadau, gan gynnwys trefnwyr clybiau a gwyliau, darlledwyr a cherddorion.
Ymhlith y llu o wobrau fydd ar gael heno, gan gynnwys ‘Y Perfformiad Byw Gorau’, ‘Y Grŵp Gorau’, a’r ‘Artist Unigol Gorau’, mae’r trefnwyr hefyd am gyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes a ‘Gwobr Gwerin’.
Mae’r ‘Wobr Gwerin’ yn agored i bawb, yn enwedig i gerddorion sydd ddim yn gweithio’n broffesiynol, ac fe fydd yn cael ei chyflwyno eleni i’r casgliad gorau o dair tôn wreiddiol.
Y Gwobrau – rhestr fer
Y grŵp gorau
- Alaw
- Calan
- Jamie Smith’s Mabon
- VRï
Yr artist/band gorau sy’n dechrau dod i’r amlwg
- NoGood Boyo
- Tant
- The Trials of Cato
- VRï
Y gân wreiddiol orau
- ‘Bendigeifran’ – Lleuwen
- ‘Cân y Cŵn’ – Gwyneth Glyn
- ‘Sŵn ar Gardyn Post’ – Bob Delyn a’r Ebillion
- ‘Y Gwyfyn’ – The Gentle Good
Y trac offerynnol gorau
- ‘Cyw Bach’ – VRï
- ‘Dawns Soïg/Dawns y Gŵr Marw’ – Alaw
- ‘Diddanwch Gruffydd ap Cynan’ – Delyth ac Angharad
- ‘Mayfair at Rhayader 1927 – Toby Hay
Yr artist unigol gorau
- Cynefin
- Gwilym Bowen Rhys
- Gwyneth Glyn
- The Gentle Good
Yr albwm gorau
- Dal i ´Redig Dipyn Bach – Bob Delyn a’r Ebillion
- Llinyn Arian – Delyth ac Angharad
- Solomon – Calan
- Tŷ yn ein Tadau – VRï
Y gân Gymraeg draddodiadol orau
- ‘Ffoles Llantrisant’ – VRï
- ‘Lliw Gwyn’ – Pendevig
- ‘Santiana’ – Alaw gyda Gwilym Bowen Rhys
- ‘Y Mab Penfelyn’ – Bob Delyn a’r Ebillion
Y gân Saesneg wreiddiol orau
- ‘Fall and Drop’ – Tagaradr
- ‘Far Ago’ – Gwyneth Glyn
- ‘Here Come the Young – Martyn Joseph
- ‘These Are the Things’ – The Trials of Cato
Y perfformiad byw gorau
- Calan
- Jamie Smith’s Mabon
- Pendevig
- Yr Hwntws
Bydd y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ac mae disgwyl perfformiadau byw gan The Trials of Cato, Gwilym Bowen Rhys, VRï a Calan drwy gydol y noson.