Mae dyn 32 oed wedi mynd ar goll o Hwlffordd.

Does neb wedi gweld y dyn, sy’n cael ei adnabod wrth yr enwau Jonathan Wheelhouse a John Hilling, ers tua 8 o’r gloch nos Sul (Ebrill 7).

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 5’5” ac o gorffolaeth denau, a chanddo wallt brown a barf.

Mae lle i gredu ei fod e’n gwisgo hwdi glas tywyll a jîns neu throwsus rhedeg pan gafodd ei weld ddiwethaf.

Does ganddo fe ddim ac felly, mae’n bosib ei fod e naill ai ar droed neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.