Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu codi pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg, gan gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg ledled y ddinas gan 50%.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor yn cynnwys ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth gynradd.
Bydd bron £6m yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol Gymraeg newydd a dwy ysgol arall yng ngorllewin y ddinas.
Y cynnig
- Yr ysgol Gymraeg newydd i gael ei datblygu ar safle presennol Ysgol Gynradd Pillgwenlli. Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £3m, bydd yr ysgol yn cael ei sefydlu yno ym mis Medi 2022 fel ysgol gynradd â dau ddosbarth mynediad gydag uned drochi a chanolfan adnoddau dysgu;
- Er mwyn cefnogi’r cynnig hwn, byddai Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn symud i gyfleusterau newydd ar ddatblygiad Whiteheads yn gynnar yn 2022;
- Hefyd cynigir y bydd egin ysgol yn cael ei sefydlu o fis Medi 2020 yn yr adeilad babanod gwag yn Caerleon Lodge Hill;
- Byddai arian hefyd yn cael ei fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar, gan ei chynyddu i ysgol â dau ddosbarth mynediad a hanner.