Mae Recep Tayyip Erdoan, arlywydd Twrci, yn galw am ddiddymu canlyniad etholiadau yn Istanbul tros yr hyn mae’n ei alw’n afreoleidd-dra

Mae’n dweud bod swyddogion oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r blychau pleidleisio wedi’u penodi mewn modd anghyfreithlon, gan nad oedd rhai ohonyn nhw’n weision sifil.

Mae’n dweud y bydd y llywodraeth yn parhau i ddefnyddio’i hawl i apelio ac i fonitrio’r afreoleidd-dra honedig “hyd y diwedd”.

Cafodd ei sylwadau eu cyhoeddi mewn papur newydd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 10).

Collodd plaid yr arlywydd gryn dipyn o dir yn yr etholiadau fis diwethaf, wrth iddyn nhw golli rheolaeth ar y brifddinas Ankara, a chael eu gwasgu i’r eithaf yn Istanbul.