Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac ASH Cymru yn lansio prosiect peilot i leihau ysmygu ymhlith pobol ifanc drwy wahardd ysmygu ar ymylon caeau gemau ieuenctid.
Fe fydd y cynllun yn cael ei dreialu gyda thimau pêl-droed ieuenctid yn y Rhondda fis yma, ble bydd ymgyrchwyr yn annog rhieni i roi’r gorau i ysmygu wrth wylio eu plant yn chwarae pêl-droed.
Daw’r prosiect o dan ymgyrch ehangach ASH Cymru sydd eisiau lleihau ysmygu ar draws nifer o chwaraeon.
Yn ôl arolwg diweddar ganddynt, roedd 99% o 125 o blant yn dweud nad oedden nhw eisiau oedolion yn ysmygu o’u cwmpas wrth iddynt wneud chwaraeon.
Cynnig cyflwyno’n genedlaethol
“Mae’r ymgyrch hon yn rhoi cyfle i ASH Cymru ymgysylltu â rhieni mewn amgylchedd sydd eisoes yn hyrwyddo ffordd iach o fyw trwy gymryd rhan mewn chwaraeon,” dywed ASH Cymru ar eu gwefan.
Yn ôl y mudiad mae nifer y bobol sy’n ysmygu yn y Rhondda yn un o’r uchaf yng Nghymru ar 20%.
“Rydym wedi cytuno i dreialu’r prosiect yng Nghwm Rhondda gyda Chynghrair Rhondda a’r Cylch a Chynghrair Merched De Cymru. Os yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi cynnig ar gyflwyno’n genedlaethol,” meddai Gareth Rogers o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Nod yr ymgyrch yw lleihau ysmygu ymhlith pobol ifanc trwy annog rhieni i beidio ag ysmygu ar y llinellau ochr mewn gemau pêl-droed bach ac iau.”