Southern Kings 18–18 Dreigiau
Sicrhaodd tri phwynt hwyr Josh Lewis gêm gyfartal i’r Dreigiau yn erbyn y Southern Kings yn y Guinness Pro14 brynhawn Sul.
Roedd y Cymry dri phwynt ar ei hôl hi gyda dau funud i fynd yn Stadiwm Bae Nelson Mandela, Port Elizabeth, cyn i’r maswr droi un pwynt yn ddau gyda’i gic gosb hwyr.
Dechreuodd y Dreigiau ar dân gan fynd ar y blaen wedi dim ond tri munud, Adam Warren yn casglu pas Hallam Amos cyn croesi.
Methodd Lewis y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb i ymestyn y fantais i wyth pwynt wedi deg munud.
Tarodd y Kings yn ôl yn gryf serch hynny gyda dau gais mewn dau funud gan Stefan Ungerer a Bjorn Basson a’r tîm cartref a oedd ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Ychwanegodd Bader-Werner Pretorius gic gob i’r Kings cyn yr egwyl, 13-8 y sgôr wrth droi.
Ymestynnodd y tîm cartref eu mantais i ddeg pwynt gyda chais cyntaf yr ail hanner, Harlon Klassen yn croesi.
Roedd y Dreigiau’n ôl yn y gêm toc cyn yr awr diolch i gais Jordan Williams, y rhedwr chwim yn troelli trwy sawl tacl cyn tirio.
Rhoddod trosiad Lewis y Cymry o fewn tri phwynt cyn i’r ddau dîm golli eu disgyblaeth yn llwyr mewn cyfnod o bum munud ble’r anfonodd y dyfafrnwr bedwar chwaraewr, dau yr un, i’r gell gosb.
Un o’r chwaraewyr hynny i dreulio deg munud oddi ar y cae a oedd prop y Dreigiau, Leon Brown, ond gwnaeth yn iawn am hynny wrth ennill y gic gosb holl bwysig ar ôl dychwelyd i’r cae.
Ciciodd Lewis y pwyntiau i sicrhau gêm gyfartal i’w dîm ond nid yw hynny’n ddigon i’w codi dros y Kings oddi ar waelod adran B y Pro14.
.
Southern Kings
Ceisiau: Stefan Ungerer 17’, Bjorn Basson 19’, Harlon Klassen 52’
Ciciau Cosb: Bader-Werner Pretorius 33’
Cardiau Melyn: Alulutho Tshakweni 59’, Michael Makase 64’
.
Dreigiau
Ceisiau: Adam Warren 3’, Jordan Williams 57’
Trosiad: Josh Lewis 57’
Ciciau Cosb: Josh Lewis 11’, 79’
Cardiau Melyn: Leon Brown 59’, Lloyd Fairbrother 62’