Mae Asiantaeth Bêl-droed wedi dweud nad oes tystiolaeth fod golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey wedi ymddwyn fel Natsi.

Cafodd y golwr 32 oed ei gyhuddo o wneud arwydd Natsiaidd mewn llun gafodd ei gyhoeddi ar Instagram gan ei gyd-chwaraewr Almaeneg, Max Mayer yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Grimsby ym mis Ionawr.

Yn ôl Wayne Hennessey ar y pryd, roedd yn galw ar y ffotograffydd i frysio wrth dynnu llun, a bod unrhyw debygrwydd i arwydd Natsïaidd yn “gyd-ddigwyddiad llwyr”.

Ond roedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn cyhuddo’r golwr o dorri rheolau sy’n ymwneud ag ymddygiad sarhaus ac anaddas sy’n dwyn anfri ar y gamp.

Yn dilyn y cyhuddiad, gofynnodd am wrandawiad personol ar ôl i gomisiwn rheoleiddio annibynnol ganfod nad oedd rheolau disgyblu wedi cael eu torri.

Heddiw, mae’r Asiantaeth Bêl-droed wedi ei ganfod yn ddieuog, penderfyniad mae Wayne Hennessey yn “hynod falch” ohono.