Fe fydd Aberystwyth yn gobeithio cynnal eu rhediad gwych o gemau heno (Nos Wener, Ebrill 5) wrth iddyn nhw groesawu Llanelli ar gyfer eu gêm olaf ond un yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r clwb wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf ac yn wythfed yn y gynghrair, ac mae’r freuddwyd o chwarae yn Ewrop yn parhau.

Byddai buddugoliaeth heno yn gosod Aberystwyth mewn safle addawol i wireddu’r freuddwyd honno.

Ar y llaw arall, mae Llanelli wedi colli pob un o’u pum gêm ddiwethaf, ac yn eistedd ar waelod Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r ymwelwyr heno wedi cael tymor anodd iawn yn Uwch Gynghrair Cymru ac mi fydd y clwb yn disgyn i Bencampwriaeth De a Chanolbarth Cymru os na fyddan nhw yn fuddugol ar Goedlan y Parc.