Fe fydd Caernarfon a Chei Conna yn mynd benben ar gae’r Ofal heno (nos Wener, Ebrill 5).
Mae hon yn gêm enfawr i Gei Conna wrth iddyn nhw frwydro am Bencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru.
Ar hyn o bryd maen nhw’n ail yn y gynghrair ar 58 pwynt, pedwar tu ôl i’r Seintiau Newydd sydd ar y brig gyda 62 pwynt.
Yn eu pum gêm ddiwethaf mae Cei Conna wedi sicrhau tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal, ac wedi colli un tra mae Caneris Caernarfon, sydd yn bumed ar 40 pwynt, wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf.
Cei Conna oedd yn fuddugol yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddau ar yr Ofal, pan ennillon nhw 2-1 yng Nghwpan JD Cymru.
Neges y rheolwyr
Yn ôl rheolwr Cei Conna, Andy Morrison: “Mae pob gêm yn teimlo fel rownd derfynol ar yr adeg yma o’r tymor a bydd ymweliad nos Wener i Gaernarfon unwaith eto yn gêm enfawr i’r clwb.”
Meddylfryd ychydig yn wahanol fydd ymysg chwaraewyr y Cofis, sydd wedi cyflawni eu gobaith o aros yn yr Uwch Gynghrair yn eu tymor cyntaf yn ôl yno.
“Rydych chi’r cefnogwyr, rhai teyrngar a rhai newydd, rhai hen a rhai ifanc, wedi bod yn rhagorol eleni, nid dim ond i ni ond i broffil Uwch Gynghrair Cymru gyfan,” meddai rheolwr Caernarfon, Neal Eardley.
“Efallai mai gêm nos Wener gyda Cei Conna fydd ein gêm gartref olaf heblaw am un o’r tymor, felly rwy’n gofyn i chi gyd am un ‘ymdrech’ fawr arall.”