Fe fydd pobol sy’n siopa yn archfarchnadoedd Morrisons yng Nghymru yn cael y dewis i brynu bagiau papur gwerth 20c o’r wythnos nesaf ymlaen, mewn ymgais gan y cwmni i leihau’r defnydd o blastig.
Mae’r cwmni yn gobeithio bod y newid am arbed tua 1,300 tunnell o blastig y flwyddyn.
Maen nhw wedi dod i’r casgliad hwn yn dilyn wyth wythnos o dreial mewn wyth cangen ym mis Ionawr. Roedd cangen y Fenni, Sir Fynwy, yn un o’r rheiny.
Dywed Morrisons ymhellach fod gan y bagiau papur, a fydd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, yr un ôl troed carbon a’r bagiau plastig arferol, sydd bellach yn costio 20c.
Mae’r papur wedi ei wneud o ddeunydd sy’n dod o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy, ac mae’r bagiau, medden nhw, yn ddigon i gario nwyddau sy’n pwyso hyd at 16kg.
Bydd bagiau tebyg yn cael eu cyflwyno yn archfarchnadoedd Lloegr a’r Alban ym mis Mai.