Mae Eifion Lloyd Jones wedi cyflwyno’i gyfrol gyntaf o farddoniaeth i’w blant a’i wyrion er mwyn iddyn nhw “gael rhywbeth i gofio amdana i”.
Ac yntau bellach wedi cyrraedd ‘oed yr addewid (70), mae Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o lefarwyr mudiad Dyfodol i’r Iaith yn gobeithio trosglwyddo “un o brif themâu” ei fywyd i’r cenedlaethau nesaf.
“Mae’n debyg bod Cymru a’r Gymraeg yn un o brif themâu y gyfrol, fel y mae o’n un o brif themâu fy mywyd i wedi bod,” meddai Eifion Lloyd Jones, sydd wedi cynnwys lluniau o’i deulu ar glawr A Chawsom Iaith…
“Dw i’n teimlo mai’r peth pwysig ydy cadw’r iaith rydan ni wedi ei chael a’i throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
“Dw i felly’n cyflwyno’r gyfrol i’m plant ac i blant fy mhlant yn y gobaith y byddan nhw’n cadw’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywed Eifion Lloyd Jones ei fod hefyd wedi defnyddio dyfyniad o gerdd ‘Fy Ngwlad’ gan Gerallt Lloyd Owen wrth edrych yn ôl ar yr “anogaeth” a dderbyniodd gan y cyn-Feuryn ar gyfres Y Talwrn.
“Oni bai am y gyfres honno, go brin y bydd yna gyfrol o’m gwaith yn cael ei chyhoeddi,” ychwanega.
Apêl cyfathrebu
Mae’r gyfrol wedi ei rhannu’n adrannau, gyda’r rheiny’n cynnwys cerddi personol i deulu a chydnabod, cerddi cyffredinol am gyflwr Cymru a’r byd, a cherddi ysgafn er mwyn difyrrwch.
Yn ôl Eifion Lloyd Jones, sy’n gyn-ddarlithydd yn Adran Gyfathrebu’r Coleg Normal, Bangor, ac hefyd yn gyn-ddarlledwr gyda HTV Cymru, mae dawn dweud wedi apelio ato erioed.
“Mae rhywbeth sydd wedi ei ddweud yn dda wedi creu argraff arna i erioed,” meddai.
“Roeddwn i’n gwneud llawer o siarad cyhoeddus pan oeddwn i’n ifanc ac roedd hynny oherwydd bod gweld a chlywed pethau wedi ei ddweud yn grefftus ac yn gofiadwy yn annog rhywun i geisio efelychu hynny mewn gwahanol ffyrdd.
“Felly dweud pethau’n dda, dw i’n credu, oedd y sail i ddechrau gwneud hynny mewn barddoniaeth.”
Dyma Eifion Lloyd Jones yn darllen cerdd agoriadol y gyfrol, ‘Cwrteisi’…