Mae gwasanaeth tân y gogledd yn rhybuddio am beryglon tanau gwair yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ddoe (dydd Gwener, Mawrth 29).

Cafodd injanau o sawl ardal eu galw i dân mynydd yn ardal Betws-y-coed yn dilyn galwad am 4.16yp.

Bu’n rhaid symud pobol leol o’u cartrefi fel rhagofal wrth iddyn nhw geisio ei ddiffodd.

Yn gynharach yn y dydd, cafodd diffoddwyr eu galw i ardal Bronaber ger yr A470, ac fe fu digwyddiadau eraill yn Llangwyfan, Llandyrnog a Llansannan.

“Lle mae nifer y digwyddiadau’n gymharol fach, mae pob un yn defnyddio adnoddau ac yn ein hatal ni rhag mynd i ddigwyddiadau eraill sy’n peryglu bywydau, meddai Kevin Roberts, y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol.

“Mae’r tywydd sych wedi cynyddu’r risg o danau gwledig a hoffem ddiolch i’r bobol hynny sy’n rhoi gwybod i ni eu bod yn llosgi o dan reolaeth ac am weithredu mewn modd diogel a chyfrifol.

“Daw’r tymor o losgi dan reolaeth i ben ar ddydd Sul, 31 Mawrth, ac yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog pobol i roi gwybod i ni am unrhyw gynlluniau i losgi – yn ystod y cyfnod llosgi a ganiateir.

“Ar ddiwrnod y llosgi sydd wedi’i gynllunio, rhaid i dirfeddianwyr fod â chynllun llosgi yn ei le, a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub ar 01931 522 006 o leoliad y llosgi, a bydd hyn yn arbed amser ac adnoddau rhag cael eu gwastraffu gan y gwasanaeth tân sy’n mynychu tân dan reolaeth.”

Mae rhybudd i ymwelwyr ag ardaloedd gwledig i fod yn ofalus rhag achosi tanau damweiniol.