Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Prydain i ohirio Erthygl 50, gan gychwyn paratoi hefyd ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd.

Daw’r alwad ar ôl i gytundeb Ymadael Theresa May gael ei wrthod am y trydydd tro gan Aelodau Seneddol, a hynny o 344 i 286 yn Nhy’r Cyffredin ddoe (dydd Gwener, Mawrth 29).

Mae hynny’n golygu bod gan Lywodraeth Prydain tan Ebrill 12 i ddewis un ai gofyn am estyniad hirach i’r trafodaethau tros adael, neu adael heb gytundeb.

Ond yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, gohirio Brexit yw’r “opsiwn gorau” er mwyn sicrhau ymadawiad “diogel a threfnus”.

‘Rhowch ddiwedd ar yr ansicrwydd’

“Mae’r ansicrwydd sy’n effeithio ar fusnesau ledled gwledydd Prydain yn ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Prydain i geisio cyflawni’r amhosib mewn cyfnod mor fyr,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae angen i fusnesau wybod y byddai’n “fusnes fel arfer” am gyfnod penodol o amser, a chael digon o rybudd – misoedd neu flynyddoedd – ynglŷn â beth sy’n digwydd fel ein bod ni’n gallu paratoi yn iawn.

“Mae’n warth bod busnesau wedi gorfod delio ag ansicrwydd ynglŷn â beth fydd yn digwydd mewn mater o ddyddiau, ac mae’r cyfrifoldeb am hynny yn hollol yn nwylo Llywodraeth Prydain.”

Ychwanega ei fod yn credu mai’r ffordd orau i “bontio’r rhwyg gwleidyddol” yng ngwleidydd Prydain yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan barhau’n rhan o’r Farchnad Rydd a’r Undeb Tollau ar yr un pryd.