Mae 21 o bobol wedi cael eu carcharu am gyfnod o dros 70 mlynedd rhyngddyn nhw, ar ôl cael eu canfod yn euog o werthu cyffuriau mewn tref yn y gorllewin.
Cafodd y cyffurgwn eu harestio fel rhan o Ymgyrch Cryptic, a gafodd ei arwain gan Heddlu Dyfed-Powys rhwng mis Chwefror a Medi 2018.
Nod yr ymgyrch oedd mynd i’r afael â’r ddarpariaeth o gyffuriau Dosbarth A – heroin yn bennaf – yn ardal Llanelli.
Roedd y 21 person a gafodd eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe yn cynnwys aelodau o gang troseddol, gyda’u hoedran yn amrywio o 19 i 65.
Cafodd y ddedfryd fwyaf ei rhoi i Ben Caulfield, 25, o Abertawe, a fydd yn treulio deng mlynedd o dan glo.
“Neges glir”
“Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn anfon neges glir i’r rheiny sy’n gysylltiedig â delio cyffuriau – does unman i guddio ac fe fyddwn ni’n cymryd camau yn eich erbyn,” meddai’r Prif Arolygydd Richard Hopkin.
“Rydyn ni’n benderfynol i sicrhau bod ardal Heddlu Dyfed-Powys yn parhau’n ardal sydd yn erbyn y camddefnydd o gyffuriau.
“Dydyn ni ddim yn derbyn cyffuriau, a bydd unrhyw un sy’n gysylltiedig â nhw yn wynebu cyfiawnder am y niwed sy’n cael ei achosi i unigolion, teuluoedd a’n cymunedau.”