Mae dyn o Gonwy wedi osgoi carchar yn Llys Ynadon Y Wyddgrug am gicio ei gath i farwolaeth.

Fe gyfaddefodd Paul Edward Patton, 43, o Morfa View ym Modelwyddan, ei fod wedi achosi marwolaeth a dioddefaint diangen i Brody, ei gath.

Clywodd y llys ei fod wedi cicio’r gath dair gwaith ar ôl iddi grafu ei law a’i goes.

Mae dedfryd Paul Edward Patton Wedi o garchar am 10 wythnos wedi ei ohirio am gyfnod o flwyddyn.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am ddegawd, ac yn gorfod talu £3,615 mewn dirwyon.

Roedd yr ymosodiad ar Brody yn “gwbl ddiangen ac yn eithriadol o greulon” meddai’r RSPCA.