Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i drawsnewid hen gapel Methodist yn Ardudwy yn fosg.

Mae’r cais ar gyfer Capel Methodistaidd Moriah, Llanbedr, wedi dod i law Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae wedi cael ei gyflwyno gan gwmni Dyfi Architecture Limited ar ran Fatma Bodhee o ardal Barking yn Llundain, sef cyfarwyddwr Jamia Almaarif Mosque and Meditation Centre.

Yn ôl y cynlluniau, mae yna fwriad dynnu’r holl seddau o eisteddfa’r hen adeilad rhestredig Gradd 2, ynghyd â chreu toiled a chawod yn ystafell y bwyler.

Mae’r manylion hefyd yn sôn am newidiadau i’r tŷ capel, gan gynnwys dymchwel rhan o wal cefn y tŷ a chodi estyniad unllawr a fydd yn cynnal ystafell ar gyfer cawod a dau dolied, ynghyd â chegin.

Y ddau fosg agosaf i Lanbedr ar hyn o bryd yw’r rhai yn Aberystwyth a Bangor.