Mae achosion diweddar yn ymwneud a gangiau cyffuriau yn adlewyrchu’r ffordd maen nhw’n ecsbloetio plant, gydag un enghraifft yn Abertawe.

Ym mis Ionawr eleni, fe gafodd deliwr cyffuriau o’r enw Jerome Wallis, 20, ei garcharu am wyth mlynedd, wedi iddo orfodi bachgen yn ei arddegau deithio o Lundain i Abertawe i werthu heroin a chrac cocên.

Roedd Jerome Wallis, sy’n euog o dreisio yn y gorffennol, wedi cyfarfod y bachgen 15 oed ar ap y cyfryngau cymdeithasol, Snapchat.

Cafodd ei fygwth o drais a’i orfodi i yrru’r cyffuriau i dde Cymru.

Ar Orffennaf 12, ar ôl cyfarfod Jerome Wallis ger Gorsaf Paddington yn Llundain, aeth y ddau i Abertawe i werthu’r cyffuriau.

Dywedodd wrth y bachgen fod rhaid iddo aros yn y ddinas am flwyddyn ar ôl dychwelyd i Lundain gyda llai o arian nag oedd angen arno.

Ar ôl mynd yn ôl i Lundain ar Orffennaf 16 i nôl mwy o gyffuriau, fe lwyddodd y bachgen i ddianc, cyn gwneud ei ffordd i orsaf heddlu.

Yn ôl archwilwyr, roedd y bachgen wedi darparu “gwybodaeth hanfodol” wnaeth eu harwain at gyfeiriad yn Abertawe, ble cafodd Jerome Wallis ei arestio.