Mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn dal i fod ynghau o ganlyniad i “ddifrod llifogydd sylweddol” a gafodd ei achosi gan Storm Gareth dros y penwythnos.
Yn ôl Cyngor Conwy, bydd y lein yn parhau ar gau nes i beirianwyr Network Rail gwblhau asesiadau a gwaith atgyweirio.
Maen nhw hefyd wedi trefnu bod gwasanaeth bws yn gweithredu nes i’r rheilffordd ail-agor, er nad oes gwybodaeth ynglŷn â phryd fydd hynny.
“Ymddiheurwn i deithwyr sydd wedi cael eu heffeithio ar ôl cau Lein Dyffryn Conwy,” meddai llefarydd ar ran Network Rail.
“Mae hyn oherwydd llifogydd, sydd wedi achosi difrod sylweddol i’r rheilffordd a chyfarpar ar ochr y lein.
“Er mwyn cadw teithwyr yn ddiogel, bydd y lein yn parhau ar gau nes i’n peiranwyr gwblhau asesiadau manwl a chyflawni’r atgyweiriadau angenrheidiol.”