Mae’r cyn-chwaraewr dros Gymru a chyn-gadeirydd clwb Huddersfield, Mick Murphy, wedi marw yn 77 oed.
Yn ôl Cymdeithas Chwaraewyr Huddersfield, ei deulu oedd wedi dod o hyd i gorff y cyn-flaenwr yn ei gartref yn y dref.
Cafodd Mick Murphy ei eni yn Lerpwl, a chafodd yrfa ddisglair ar y cae rygbi – rygbi’r gynghrair a rygbi’r undeb – yn chwarae i glybiau Leigh, Barrow, St Helens a Bradford.
Bu hefyd yn cynrychioli Cymru yn ystod pencampwriaeth Cwpan y Byd rygbi’r gynghrair yn 1975. Fe wnaeth bump ymddangosiad yn y crys coch rhwng y flwyddyn honno a 1979.
Ar ôl treulio cyfnodau yn Ffrainc ac Awstralia, fe ddychwelodd i wledydd Prydain er mwyn rheoli clybiau, ac mae’n cael ei ystyried fel y dyn a achubodd glwb Huddersifeld ar ddiwedd yr 1980au ar adeg pan oedd y clwb yn wynebu trafferthion ariannol.
Cafodd ei gyfraniad i’r clwb hwnnw ei gydnabod pan wnaed ef yn aelod oes flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae’n debyg yr oedd yn bresennol mewn gêm rhwng Huddersfield a St Helens yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, Mawrth 14).
Yn ogystal â’i yrfa yn y byd rygbi, bu Mick Murphy hefyd yn athro ac actor ar gyfer y teledu.