Mae gorsaf Radio Wales yn ail-wampio ei rhaglenni bore, gyda Good Morning Wales yn cael ei dileu, a Breakfast with Caire Summers yn cymryd ei lle.
Daw’r newid yn dilyn y cyhoeddiad y bydd rhaglenni brecwast dwy orsaf leol yng Nghymru, sef Capital a Heart, yn dod i ben.
O dan y drefn newydd, fe fydd rhaglen foreol newydd gan Claire Summers yn cymryd lle un Mal Pope.
Bydd Claire Summers yn gyfrifol am gyflwyno’i rhaglen materion cyfoes newydd o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda Oliver Hides yn cymryd yr awenau ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Bydd rhaglen newyddion Jason Mohammad a Dot Davies yn cychwyn ynghynt am 8.30yb, cyn i Wynne Evans ddarlledu dros ginio rhwng 11yb a 2yp.
Eleri Siôn fydd ar yr awyr yn y prynhawn, tra bo Gareth Lewis wrth y llyw mewn rhaglen newyddion newydd am 5yp.
Mae disgwyl i’r arlwy newydd yn cychwyn am 6yb ar ddydd Llun, Mai 13.