Mae’r cyn-asgellwr rhyngwladol, Shane Williams, wedi rhoi ei gefnogaeth i ganolfan ar gyfer cŵn strae sydd ar fin cael ei hadeiladu yng nghanol y brifddinas.
Ddydd Mawrth (Mawrth 13), fe gafodd cyn-seren Cymru ei weld y tu allan i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd yn cyfarfod â dau gi sydd wedi eu hachub.
Yn ymuno ag ef oedd rhai Aelodau Cynulliad, ynghyd â phrif weithredwr dros dro yr elusen Dogs Trust, Jim Monteith.
Bydd y ganolfan newydd, sy’n bwriadu bod yn gartref i tua 1,000 o gŵn, yn cael ei hadeiladu yn ardal Sblot, ac mae disgwyl iddi gynnwys cyfleusterau modern fel lloriau wedi eu gwresogi, neuadd hyfforddi ac ystafell hydrotherapi.
Yn ôl Dogs Trust, bydd y ganolfan yn creu 50 o swyddi newydd, gan gynnwys rheolwyr, gofalwyr, hyfforddwyr a gweithwyr cynnal a chadw.
“Cafodd dros 5,000 o gŵn strae eu casglu gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru y llynedd yn unig, felly mae yna angen am ein canolfan newydd ac fe fydd yn cyd-fynd â gwaith y ganolfan sydd eisoes gan yr elusen ym Mhen-y-bont ar Ogwr,” meddai Jim Monteith.
“Y gobaith yw y bydd modd ailgartrefu 1,000 o gŵn y flwyddyn yn y ganolfan yng Nghaerdydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fedru rhoi dyfodol mwy disglair i gŵn yr ardal.”