Mae gan drigolion Powys chwe wythnos ar ôl i leisio eu barn ar strategaeth newydd y sir sy’n edrych ar wella darpariaeth toiledau.
Yr amcan yw gwella mynediad at, ac ansawdd y toiledau ar gyfer pawb gan gynnwys teuluoedd gyda phlant ifanc, trigolion ag anableddau ac ymwelwyr.
‘Defnyddio ein Tai Bach’ yw enw’r ymgyrch ac mae’r cyngor wedi bod yn gweithio gyda chaffis preifat a busnesau i’w hyrwyddo.
Y gobaith yw llunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus erbyn mis Mai.
“Mae ein drafft yn dod â map o’r holl ddarpariaeth yr ydym yn ymwybodol ohono yn y sir a’r adborth o’n harolwg cychwynnol ynghyd,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, sy’n Aelod Cabinet.
Mae’r drafft yn amlygu bod 54% o drigolion yn cael trafferth dod o hyd i doiled wrth ymweld â thref arall.
Ar ben hynny, mae’n rhaid i 22% dalu am ddefnyddio toiled cyhoeddus, a byddai 81% wrth eu boddau yn cael ap ffôn i’w helpu i ddod o hyd i doiledau.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos tan Ebrill 11 a’r gobaith yw y bydd strategaeth derfynol yn ei lle erbyn mis Mehefin.