Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi delio ag “argyfwng meddygol” yng Ngwynedd.
Cafodd parafeddygon eu galw i Barc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth, am 10.45 ar fore dydd Gwener (Mawrth 8).
Cafodd cerbyd ymateb cyflym, ambiwlans brys, ac ambiwlans awyr eu hanfon gan y gwasanaeth.
Bellach mae un claf wedi cael ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, mewn ambiwlans awyr.
Yn ôl Heddlu’r Gogledd roedd un cerbyd mewn gwrthdrawiad ym maes parcio swyddfeydd Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, y bore yma.