Mae is-ganghellor newydd Prifysgol Abertawe yn barod i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ar ôl dechrau yn ei swydd.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth yr wythnos hon (Mawrth 5) mai’r Athro Paul Boyle, cyn-ddarlithydd yn y brifysgol, fydd yn olynu’r Athro Richard B. Davies, sydd wedi’i wahardd o’i swydd ar hyn o bryd cyn y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.
Fe fu’r is-ganghellor presennol yn destun ymchwiliad mewnol ers mis Tachwedd y llynedd.
Cafodd penodiad yr Athro Paul Boyle, sydd ar hyn o bryd yn Is-ganghellor ac yn Llywydd ar Brifysgol Caerlŷr, ei gadarnhau mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Prifysgol Abertawe ddoe (dydd Mercher, Mawrth 6)
Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol, roedden nhw wedi “dilyn proses recriwtio fyd-eang a ddechreuodd wedi i’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, gyhoeddi mis Medi diwethaf o’i fwriad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2018/19.”
“Mae’r Athro Paul Boyle yn llwyr werthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi mynegi parodrwydd i dderbyn gwersi Cymraeg pan fydd yn cychwyn yn ei rôl newydd,” meddai llefarydd.